LLŶR JAMES

Cyfrifwyr Siartredig
Archwilwyr Cofrestredig

25 Stryd y Bont
Caerfyrddin
SA31 3JS

 


Cyfrifwyr Siartredig
Ysgrifenyddes/ Ysgrifennydd

Teitl y swydd: Ysgrifenyddes / Ysgrifennydd

Dyletswyddau: Dyletswyddau ysgrifenyddol safonol, yn cynnwys teipio awdio, ateb a chymryd galwadau ffôn, gwaith derbynnydd.

Yn gyfrifol i: Y cyfarwyddwyr

Cyflog: yn dibynnu ar brofiad

Oriau: Cyfanswm 30-35 awr yr wythnos (5 diwrnod).

Cyfnod ar brawf: Y mae'r swydd yn ddibynnol ar gwblhau tri mis o gyfnod prawf.

Pensiwn: Telir cyfraniadau tuag at gynllun pensiwn yn unol â rheolau pensiynau.

 

Sut i wneud cais

Bydd angen cyflwyno C.V. ynghyd â llythyr cais trwy e-bost i bethanvaughan@llyrjames.co.uk sy’n esbonio sut y mae eich profiad, sgiliau a diddordebau yn berthnasol i’r swydd,

Gofynnir i chi hefyd ddarparu enw a chyfeiriad dau ganolwr y gellir cysylltu â hwy os bydd eich cais yn llwyddiannus.
Y mae croeso i unrhyw ddarpar ymgeiswyr gysylltu â Bethan Vaughan, ar 01267 237754 i drafod y swydd.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Llun, 22 Mehefin 2020 (Ganol dydd).
Bwriedir cyfweld ag ymgeiswyr llwyddiannus y rhestr fer yn fuan wedi’r dyddiad cau.

Bwriad hanfodol y swydd


Bwriad hanfodol y swydd yw darparu gwaith ysgrifennydd/ysgrifenyddes a chymorth gweinyddol i’r cyfarwyddwyr.

Dyletswyddau a Chyfrifoldebau

Bydd y swydd yn golygu gweithio gydag aelodau eraill staff y swyddfa fel rhan o dîm, a chyflawni'r dyletswyddau canlynol:

  1. Ymgymryd â gwaith teipio awdio gan gynhyrchu gwaith o’r safon uchaf drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
  2. Derbyn a gwneud galwadau ffôn gan ddelio gyda chleientiaid a sefydliadau fel Cyllid a Thollau.
  3. Bod yn ymwybodol o natur cyfrinachol y gwaith a thrin pob mater yn unol â hynny.
  4. Ymgymryd â gwaith derbynnydd.

Gofynion Personol

Hanfodol

  1. Sgiliau teipio ynghyd â sgiliau ysgrifenyddol o safon dda.
  2. Sgiliau T.G. o safon dda a dealltwriaeth o raglenni Microsoft Office.
  3. Y gallu i gymryd cyfrifoldeb a gweithio’n annibynnol, ac i drefnu a blaenoriaethu dyletswyddau gwaith heriol er mwyn cyflawni gwaith y swyddfa.
  4. Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Dymunol

  1. Profiad o weithio mewn swyddfa cyfrifwyr.


Penodiad

Dyddiad cychwyn y swydd hon fydd 13 Gorffennaf 2020 neu cyn gynted â phosib wedi’r dyddiad hwnnw.